Mae gan Afonwen isadran dillad gwaith arbenigol sy'n darparu dillad gwaith a dillad arall yn bennaf ar gyfer y diwydiannau bwyd a chynhyrchu. Mae cwsmeriaid dillad gwaith Afonwen yn cynnwys cyfleusterau cynhyrchu bwyd aml-safle, o ladd-dai, hufenfeydd a chyfleusterau cynhyrchu bwyd pecyn i fusnesau llai gyda dim ond llond llaw o staff sydd angen dillad gwaith.
Mae tîm dillad gwaith Afonwen hefyd yn rhoi cyngor ar ddarparu ystod eang o Gyfarpar Diogelu Personol, sy'n cydymffurfio â heriau cynyddol y Rheoliadau Iechyd a Diogelwch. Gall Afonwen ddarparu cyfres o ddillad o safon uchel gan lawer o ddarparwyr blaenllaw o ddillad i ddiwydiant yn y Deyrnas Unedig .
Fel rhan o'n gwasanaeth, mae Afonwen yn sicrhau y caiff pob dilledyn ei lanhau, ei brosesu a'i bacio yn unigol trwy ein cyfleuster Ystafell Lân gofal uchel arbenigol. Mae ein Hystafell Lân a adeiladwyd yn bwrpasol yn ymgorffori'r holl fuddion y teimlwn y mae eu hangen ar ein cwsmeriaid:
- Rheolaethau trawsheintio
- Rhwystr-brosesu a Diheintio gwresol
- Profion Microbiolegol Rheolaidd
- Sustem hidlo awyr â llif awyr positif
- Sustemau HACCP
Archwilir ein Hystafell Lân yn annibynnol ac yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn gweithredu i'r safonau hylendid uchaf.
Yn ogystal â hyn, gall Afonwen ddarparu gwasanaethau ychwanegol megis bathodynnau Logos Corfforaethol a bathodynnau enwau, sustemau loceri, matiau llwch a thywelion rholer cabinet yn ôl y gofyn.
Gall Afonwen hefyd gynnig gwasanaeth rheoledig i rai cwsmeriaid lle y bydd Afonwen yn cymryd cyfrifoldeb pob dydd am reoli'r dillad fel y caiff dillad glân a brosesir yn unigol eu storio'n gywir yn y locer berthnasol ar gyfer pob aelod o staff ar safle'r cwsmer.
Fel un o'r cwmnïau dillad gwaith mwyaf blaenllaw yng Nghymru, mae Afonwen yn ehangu ei wasanaethau wrth i nifer cynyddol o gwmnïau allffynhonellu eu hanghenion dillad gwaith ac mae Afonwen eisoes yn gwasanaethu nifer mawr o gwsmeriaid ar draws yr ardal ehangach y mae'n ei gwasanaethu.
|