Mae Golchdy Afonwen yn cyflogi dros 16 o bobl ac mae ganddo'r gallu i ddelio a dros 750,000 o eitemau o lieiniau bob wythnos ym Mhwllheli, Gogledd Cymru, sy'n ei wneud yn un o'r cyfleuster cynhyrchu anibynol mwyaf yn y Deyrnas Unedig.
Rydym wedi buddsoddi dros £6 miliwn ers 1999 pan fu i ni symud i'n safle presennol a dim ond y peiriannau golchi o'r safon uchaf y byddwn yn eu prynu a hynny gan y cwmni cynhyrchu peiriannu golchi gorau yn y byd, Kannegiesser, yr arweinydd byd-eang yn y farchnad darparu cyfarpar golchdai.
Mae gennym gymaint o hyder yn eu peiriannau, fel ein bod wedi gofyn iddynt adeiladu cyfleuster cynhyrchu newydd o'r raddfa flaenaf bwrpasol yng Nghaerdydd ac yno y byddwn yn buddsoddi £5 miliwn er mwyn darparu un o'r agoriadau newydd cyflymaf. Bydd yr uned gynhyrchu â'r gallu i ddelio â 500,000 arall o eitemau o lieiniau bob wythnos, yn ein darparu a llwyth o allu cynhyrchu, ac yn galluogi'r busnes cyfunol i ddelio â dros 1.2 miliwn o eitemau o lieiniau bob wythnos.
Yn y cyfnod cyn Ryder Cup 2010 a fydd yn cael ei gynnal yng Nghasnewydd, mae cryn fuddsoddiad yn digwydd yn Ne Cymru ac rydym yn falch o fod yn rhan o'r twf i roi De Cymru ar lwyfan rhyngwladol.
Mae gan ein dau gyfleuster cynhyrchu ddau beiriant golchi anferth sy'n derbyn 50kg o lieiniau yr un bob 2 funud o'r diwrnod gwaith. Mae gennym bedwar peiriant smwddio yng Ngogledd Cymru, gyda phob un yn arbenigo mewn prosesu gwahanol bethau - cynfasau, llieiniau bwrdd, gorchuddion duvet ac eitemau fel napcynnau a chasys gobenyddion; a thri Pheiriant Perfformiad Uchel yn Ne Cymru. Yr ydym hefyd wedi buddsoddi llawer mewn peiriannau plygu tywelion awtomatig, sy'n golygu bod ein cwsmeriaid yn derbyn eu tywelion wedi'u plygu'n berffaith.
Pob blwyddyn, rydym yn buddsoddi'n drwm mewn offer newydd a byddwn yn ystyried sut y gallwn ddal ati i wella a datblygu ein busnes.
Yr ydym yn rheoli'r gwaith yr ydym yn ei wneud yn ofalus trwy gynllunio manwl i sicrhau ein bod mewn sefyllfa i ddelio â'r lefelau uwch o waith sydd eu hangen i weithredu'n effeithlon yn y farchnad gystadleuol sy'n bodoli yn y maes heddiw.
Mae Afonwen wedi bod ar flaen y gad wrth fabwysiadu'r mesurau rheoli ansawdd mwyaf cyfoes a ni yw'r cwmni llogi llieiniau cyntaf yn y byd i gael technoleg sganio ar bob un o'r llinellau smwddio yn ein cyfleuster cynhyrchu.
Mae hyn yn ein galluogi i fonitro ansawdd pob eitem fawr o liain wrth iddynt fynd trwy'r llinell gynhyrchu a chyn iddynt gael eu hanfon at ein cwsmeriaid, gyda'r eitemau nad ydynt yn llwyddo i gyrraedd y safon ofynnol yn cael eu gwrthod cyn eu hanfon allan gan sicrhau bod ein cwsmeriaid yn derbyn eitemau o'r safon uchaf gydol y flwyddyn.
Mae gennym hefyd dîm o saith o beirianwyr medrus a phrofiadol ar y safle i sicrhau bod yr holl beiriannau'n cael eu cadw i'r safon uchaf a'u bod yn cael eu gwasanaethu'n rheolaidd i sicrhau bod eu cyfnodau segur cyn lleied â phosibl i sicrhau lefel uchel o gysondeb o ran dibynadwyedd ein gwasanaeth i gwsmeriaid.
Mae Afonwen yn ymdrechu'n barhaus i wella lefel y gwasanaeth a ddarperir trwy archwilio a monitro ei wasanaeth yn ofalus, meincnodi ei waith yn erbyn ei gystadleuwyr. Mae Afonwen hefyd yn cynnal arolygon o gyflenwyr llieiniau eraill yn y Deyrnas Unedig yn ogystal â thramor i sicrhau ein bod yn cadw ar y blaen i weddill y diwydiant a'n cystadleuwyr wrth ddarparu gwasanaeth ac ansawdd rhagorol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ymweld â golchdai eraill ledled y Deyrnas Unedig yn ogystal â chyfleusterau cynhyrchu eraill mewn nifer o wledydd tramor gan gynnwys yr Almaen, Gwlad Belg, Iwerddon a'r Unol Daleithiau.
Yr ydym yn croesawu ymweliadau â'n cyfleusterau cynhyrchu gan gwsmeriaid a darpar gwsmeriaid yn ogystal â chan gydweithwyr yn y diwydiant (ar yr amod nad ydych yn cystadlu'n uniongyrchol yn ein herbyn!) ac, os hoffech drefnu taith o gwmpas y gwaith i weld sut yr ydym yn gweithio, mae croeso i chi gysylltu â ni i drefnu ymweliad.
|