Yn Afonwen, rydym yn arbenigo mewn delio â niferoedd mawr i lieiniau a hynny ar raddfa anferthol. Pob wythnos, rydym yn prosesu cannoedd a miloedd o eitemau o lieiniau budr sy'n golygu ein bod wedi dod i ddeall ein cwsmeriaid yn dda a'r llieiniau budr maent yn eu cynhyrchu, yn ogystal â dewis llieiniau sy'n gweithio'n dda o dan amodau golchdy masnachol ac sy'n cadw'u hansawdd ar ôl cael eu golchi dro ar ôl tro.
Er mwyn cadw pethau'n syml a sicrhau nad yw pethau'n mynd o chwith, dim ond ein llieiniau ein hunain yr ydym yn eu cyflenwi a'u prosesu, gan logi ein stoc i gwsmeriaid a darparu gwasanaeth casglu a dosbarthu prydlon ac effeithlon.
Llieiniau gwely
Yr ydym yn cynnig dau fath o liain gwely sy'n ateb gofynion ein cwsmeriaid.
Y Gyfres Llieiniau Gwely safonol
Cyfres glasurol o gynfasau cotwm, casys gobenyddion, gorchuddion duvet cotwm gwyn plaen neu rai streipiau satin o ansawdd uwch a thywelion dwylo 525gsm, tywelion bath neu gynfasau bath neu fatiau bath cyfforddus. Yr ydym wedi bod yn cyflenwi'r rhain ers nifer o flynyddoedd bellach i amrywiaeth eang o grwpiau o westai cenedlaethol a sefydliadau teuluol.
Y gyfres Llieiniau Gwely Cotwm Eifftaidd Moethus
Yr ydym hefyd yn cynnig cyfres foethus o gynfasau gwely Cotwm Eifftaidd wedi'u gwehyddu â 200 cyfrifiad edau yn yr Eidal gyda chasys gobenyddion steil oxford a thywelion o'r ansawdd uchaf sydd ar gael yn ein diwydiant gyda thywel dwylo 650gsm a chynfas bath sydd gyda'r mwyaf moethus a thrwchus sydd ar gael, ynghyd â mat bath moethus 1000gsm.
Mae llawer o Westeion Gwestai mor hoff o'n cyfres o lieiniau moethus fel ein bod yn derbyn ceisiadau parhaus i gyflenwi'r llieiniau i'r cyhoedd sy'n cysylltu â ni ar ôl bod yn aros yng ngwestai ein cwsmeriaid ac mae safon ein llieiniau'n cael ei grybwyll yn gyson yn y Good Hotel Guide a chan y prif adolygwyr gwestai eraill. Fel y gair olaf mewn moethusrwydd a chyfforddusrwydd, gallwn fod yn weddol sicr y bydd eich gwesteion yn dweud eu bod wrth eu bodd gydag ansawdd dillad y gwely y buont yn cysgu ynddo.
Llieiniau bwrdd
Yr ydym yn cyflenwi llieiniau bwrdd wedi'i gwneud o 100% cotwm damasg wedi ei wehyddu yng Nghroatia fel ein cyfres safonol. Gallwn ychwanegu at hyn trwy gynnig cyfres o lieiniau bwrdd Signature Plus lliw i gyd-fynd â phob math o liwiau eraill. Rydym hefyd yn cynnig yr hyblygrwydd o logi untro ac achlysurol mewn amrywiaeth o liwiau i alluogi ein cwsmeriaid i gynnig dewis a hyblygrwydd mewn priodasau ac achlysuron arbennig eraill.
Yr ydym hefyd yn cynnig cyfres foethus o lieiniau bwrdd hardd o satin Eidalaidd gwyn i nifer o'n cwsmeriaid mwyaf nodedig, gan gynnwys rhai sydd wedi ennill seren neu ddwy am ansawdd eu bwyd a'u llieiniau bwrdd safonol hefyd!
Gwisgoedd cogyddion
Yr ydym yn cyflenwi ac yn golchi siacedi, trowsusau, barclodiau a gyddflieiniau Cogyddion, sy'n galluogi ein cwsmeriaid i dynnu peth o'r pwysau a'r gwres oddi ar eu gweithwyr cegin pan fyddant yn dechrau teimlo'r straen. Mae ein tîm gwisgoedd cegin bwrpasol yn sicrhau ein bod yn cyflenwi gwisgoedd sy'n ffitio pob siâp a maint, gan gynnig system ddosbarthu a chasglu rheolaidd gan ddefnyddio casglwr dillad budr os bydd angen.
Gwasanaeth a Chefnogaeth Cwsmer
Gan gydweithio'n agos â'n cwsmeriaid, mae ein tîm gwasanaeth cwsmer profiadol yn cadw golwg fanwl ar y stoc a gofal a chefnogaeth barhaus i'n cwsmeriaid, gan sicrhau bod lefelau stoc yn cael eu monitro a'u rheoli'n ofalus, a chan sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y gorau o'r gwasanaeth a ddarperir gennym.
Yn ogystal â chyfrif stoc yn fisol ar ran ein cwsmeriaid mwyaf, bydd tîm gwasanaeth cwsmer Afonwen yn cyfrif stoc brys os bydd unrhyw beth yn mynd o'i le ar ochr y cwsmer. Y swyddog cadw ty ar ei gwyliau a chwithau mewn dyfroedd dyfnion? Peidiwch â phoeni, rydym ni yma i'ch helpu!
Cludiant a dosbarthu
Mae gan Afonwen reolwr trafnidiaeth bwrpasol a llawn amser sy'n gyfrifol am reoli dosbarthiad dros 750,000 o eitemau o lieiniau'r wythnos. Gan gydweithio'n agos â phennaeth ein tîm llwytho a'r tîm gwasanaeth cwsmer, mae ein rheolwr trafnidiaeth yn rhedeg fflyd o dros 20 o gerbydau HGV a 3 o faniau llai ar gyfer dosbarthiadau annisgwyl neu achlysurol sy'n cyflogi tua 30 o yrwyr, gan sicrhau ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth dosbarthu a chasglu effeithlon.
|