Click here to return to the Home pageClick here if you want to contact usClick here to go to the welsh language website
Click here to find out more about AfonwenClick here to find out more about Afonwen's linen hire servcieclick here to read about our Workwear servicesClick here to find out more about how Afonwen LAundry came aboutClick here to read about our state of the art production facilityClick here to find out about our environmental policy
     

 

 

Sefydlwyd Afonwen ym 1935 fel yr Afonwen Steam Laundry Limited gan y teulu Owen. O'r cychwyn cyntaf, bu Afonwen yn fusnes teuluol gyda'r nod o ddarparu gwasanaeth personol i'w gwsmeriaid. Dechreuodd y busnes gyflenwi teuluoedd lleol a thai llety bychain yn y dyddiau pan oedd teuluoedd yn heidio i Gymru i aros mewn tai llety glan môr i fwynhau gwynt y môr ac edmygu golygfeydd ysblennydd Gogledd Cymru.

Pan sefydlwyd Afonwen dechreuodd trwy wasanaethu teuluoedd lleol a oedd yn dibynnu ar y golchdy lleol i ddarparu gwasanaeth golchi personol i'w defnydd yn y cartref cyn dyfodiad y peiriant golchi modern. Ehangodd y busnes yn raddol y tu hwnt i gymunedau Llyn i wasanaethu trefi cyfagos y Gogledd, gan gynnwys Caernarfon, Bangor a Betws-y-coed.

Ym 1976, prynwyd Afonwen gan y teulu Woolfenden sydd wedi rhedeg y busnes ers hynny. Ar ôl iddynt brynu'r busnes, dechreuodd Afonwen ddiweddaru ei beiriannau golchi a chanolbwyntio ymdrechion ar logi llieiniau, cyflenwi llieiniau a darparu gwasanaethau golchi i'r diwydiant twristiaeth yn bennaf ledled y Gogledd, gan ei alluogi i ehangu ei wasanaeth i gynnwys canolfannau twristiaeth bwysig Ynys Môn a Llandudno, â'r ardaloedd cyfagos.

Erbyn 1981, roedd gan Afonwen bresenoldeb amlwg yn niwydiant Gwestai Gogledd Cymru a symudodd gyda'r oes gan roi'r gorau i ddarparu gwasanaeth golchi i gwsmeriaid preifat, gan fod cynifer ohonynt bellach yn golchi eu dillad eu hunain gartref yn sgil dyfodiad peiriannau golchi dillad cartref da a rhad.

Roedd hyn yn galluogi Afonwen i ganolbwyntio ar ehangu ei fusnes llogi llieiniau ymhellach lle oedd gofyn am lefelau uwch o adnoddau cynhyrchu er mwyn ateb y galw. Mae hyn wedi annog Afonwen i fuddsoddi ymhellach ac ymestyn ei diriogaeth i Loegr yn ogystal ag ehangu ei wasanaeth ledled y Canolbarth i chwilio am gwsmeriaid newydd.

Ym 1986, daeth Afonwen yn rhan o fasnachfraint Brooks Service Group plc, a oedd ar y pryd yn un o'r prif gwmnïau llogi llieiniau cenedlaethol a bu'n cydweithio'n agos â Brooks i ddatblygu ei gwsmeriaid, gan sicrhau contractau gyda Gwestai ledled y wlad sydd wedi caniatáu i'r ddau fusnes dyfu a newidiwyd enw'r Afonwen Steam Laundry Company i Afonwen Services Limited.

Wrth i Afonwen barhau i ehangu, cymerwyd y penderfyniad i symud o'r cyfleuster cynhyrchu gwreiddiol y sefydlwyd y busnes ynddo, ar y brif ffordd rhwng Pwllheli a Chricieth, i gyfleuster cynhyrchu newydd i alluogi'r busnes i barhau i dyfu.

Gorffennwyd y gwaith adeiladu ar y safle erbyn Mai 1999 a symudodd Afonwen ei holl waith dros benwythnos gwyl y banc, gan sicrhau bod ei wasanaeth yn parhau'n ddi-dor ar hyd yr amser. Ers iddo symud, bu twf Afonwen yn fwy dramatig fyth, gan ddyblu faint o waith y gall ei brosesu o fewn pum mlynedd ac mae ansawdd ei wasanaeth wedi parhau i gryfhau, wrth i'r busnes dyfu.

Y n 2007 sefydlodd Cyfarwyddwyr Afonwen, Whiteriver Laundry, ein chwaer olchdy, yn ymdrin â Sir Efrog; a dechreuont weithio ar gynllun i agor golchdy mawr masnachol yn Ne Cymru i ateb gofynion ardal oedd, yn hanesyddol, wedi ei wasanaethu'n wael gan y diwydiant golchdai.

Yng ngwanwyn 2008, cyhoeddwyd rhaglen buddsoddiad anferth o £5 miliwn gyda chefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ein cyfleuster cynhyrchu newydd, o'r raddfa flaenaf, yn agor yr haf yma, yn galluogi cryn gynnydd yn ein gallu cynhyrchu a chyrhaeddiad ein gwasanaeth.

Mae gan sylfaenwyr gwreiddiol y busnes a'r holl staff sydd wedi gweithio gydag Afonwen dros y blynyddoedd lawer i ymfalchïo ynddo wrth iddynt drawsnewid golchdy bach lleol, a fu'n gwasanaethu'r gymuned leol, i fod yn un o'r prif gwmnïau llogi llieiniau yn y Deyrnas Unedig.