Click here to return to the Home pageClick here if you want to contact usClick here to go to the welsh language website
Click here to find out more about AfonwenClick here to find out more about Afonwen's linen hire servcieclick here to read about our Workwear servicesClick here to find out more about how Afonwen LAundry came aboutClick here to read about our state of the art production facilityClick here to find out about our environmental policy
     

 

 

Diogelu'r Amgylchedd

Mae Golchdy Afonwen wedi ymrwymo i gael cyn lleied â phosibl o effaith ar yr amgylchedd ac mae yn y broses o wneud cais am wobr y Ddraig Werdd am ymwybyddiaeth amgylcheddol ac mae'n datblygu cynllun gweithredu i leihau ei effaith ar yr amgylchedd, mewn rhaglen gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy'n annog cwmniau i osod amcanion blynyddol ar gyfer gwelliannau amgylcheddol sy'n benodol ar gyfer ein busnes. Yr ydym wedi ymrwymo i gyrraedd y statws seren aur uwch yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Mae llogi a golchi llieiniau yn ei hanfod yn fusnes ailgylchu yn yr ystyr ein bod yn un o'r ychydig gyflenwyr i'r diwydiant gwestai sy'n casglu, ail-olchi a dychwelyd yr un eitemau dro ar ôl tro. A dweud y gwir, rydym wedi bod yn ailgylchu llieiniau ers 1935, ymhell cyn ei bod yn ffasiynol i fod yn wyrdd!

Fel un o'r golchdai annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig, rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi cwblhau gwaith trin dwr gwastraff a gostiodd £650,000 erbyn hydref 2007. Credir mai Afonwen yw'r unig gwmni golchi yn y DU sy'n derbyn cyfrifoldeb uniongyrchol am drin ei holl ddwr gwastraff hyd at safonau rhyngwladol cydnabyddedig.

Mae'r dwr mor lân ar ôl bod trwy ein gwaith Trin Dwr Gwastraff fel bod gennym drwydded arbennig sy'n caniatáu i ni ollwng ein helifiant wedi'i drin yn syth i Fôr Iwerddon, heb orfod ymwneud â'r awdurdod dwr lleol. Yr ydym yn credu hefyd mai ni yw'r unig olchdy masnachol yn y DU sydd â chaniatâd i ollwng ei elifiant yn uniongyrchol i'r môr.

O dan amodau ein cydsyniad i ollwng elifiant, rhaid i ni sicrhau bod cyfansoddiad yr hyn sy'n cael ei ollwng yn ddim mwy na 40 miligram y litr o ocsigen biogemegol a 60 miligram y litr o solidau mewn daliant. Mae'r holl waith technegol yma a phob math o waith dadansoddi'n cael ei wneud drwy'r dydd i sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei ollwng yn cyrraedd y safonau uchaf posibl.

Mewn geiriau eraill, mae ein dwr gwastraff yn cyrraedd lefel a gymeradwyir gan gyfarwyddeb gollwng Dyfroedd Arfordirol diweddaraf yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r holl ddwr sy'n cael ei ollwng yn cael ei fonitro'n awtomatig i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r safonau, a chynhelir archwiliadau annibynnol rheolaidd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, corff yr ydym yn cydweithio'n agos ag ef.

Credwn mai ni yw'r unig olchdy masnachol yn y Deyrnas Unedig sy'n cyrraedd y safon hon ac rydym am herio gweddill y diwydiant i ymuno â ni i gyflawni'r nod.

Nid yw ein hymrwymiad i'r amgylchedd yn gorffen gyda hynny:

  • Yr ydym yn monitro, rheoli a chynnal archwiliad annibynnol misol o'r cemegau a ddefnyddir gennym i sicrhau nad ydym yn defnyddio unrhyw beth nad yw'n hanfodol i ddarparu gwasanaeth da;
  • Rydym yn defnyddio peiriannau golchi mwyaf modern, amgylcheddol garedig sy'n defnyddio llai o ddwr ac sy'n golchi i'r safonau uchaf;
  • Yr ydym yn monitro'n rheolaidd faint o ynni a ddefnyddir gennym, gan gynnwys nwy, trydan a thanwydd ein cerbydau dosbarthu, i sicrhau nad ydym yn defnyddio mwy na sydd raid;
  • Ac, wrth gwrs, rydym yn ailgylchu popeth a allwn.

Yr ydym yn credu'n gryf y dylai cwsmeriaid a darpar gwsmeriaid wahardd y defnydd o napcynau papur a llieiniau bwrdd papur yn eu busnes. Maent yn edrych yn rhad a di-chwaeth ac, yn ein barn ni, maent yn gwneud llawer mwy o niwed i'r amgylchedd na napcyn go iawn y gellir ei ailgylchu dro ar ôl tro gyda startsh o'r ansawdd gorau wedi'i ychwanegu hefyd!