 |

Gwasanaethau Afonwen Cyfyngedig,
Afonwen,
Pwllheli,
Gwynedd,
LL53 6NQ
Ffôn: 01766 810264
Ffacs: 01766 810040
Rhif Cwmni
Cofrestredig
00313587 |
|
 |
Mae Golchdy Afonwen yn un o brif gwmnïau golchi a llogi llieiniau annibynnol y Deyrnas Unedig, sy'n darparu amrediad eang o lieiniau o ansawdd uchel i dros 400 o gwsmeriaid, gan gynnwys gwestai rhyngwladol adnabyddus gan gynnwys Best Western, Crowne Plaza, Express By Holiday Inn, Holiday Inn, Park Inn, Park Plaza a Ramada Plaza.
Yr ydym hefyd yn cyflenwi amrywiaeth eang o westai annibynnol o'r safon uchaf gan gynnwys gwestai boutique a sba, a chestyll moethus hanesyddol trawiadol wedi eu trawsnewid yn westai a chartrefi mawreddog. Rydym hefyd yn cyflenwi amrywiaeth eang o bentrefi gwyliau, llety gwely a brecwast a llawer o westai brand cenedlaethol yn y sector Gwestai prisiau cystadleuol sy'n tyfu mor gyflym.
Mae Golchdy Afonwen mewn sefyllfa unigryw gan mai dyma'r unig olchdy a chyflenwyr llieiniau sy'n gwasanaethu Cymru gyfan, Gogledd Orllewin, Gorllewin Canolbarth Lloegr a De-orllewin Lloegr.
Trwy ein chwaer gwmni, Whiteriver Laundry sy'n ymdrin â Swydd Efrog, a'n cysylltiad agos â nifer o brif gwmnïau llogi llieiniau annibynnol ledled y Deyrnas Unedig, gallwn gynnig gwasanaeth ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Felly, lle bynnag y boch chi, byddwn yn falch o drafod eich holl ofynion yn fwy manwl gyda chi.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych a diolch am eich diddordeb yn Afonwen.
|
 |