Click here to return to the Home pageClick here if you want to contact usClick here to go to the welsh language website
Click here to find out more about AfonwenClick here to find out more about Afonwen's linen hire servcieclick here to read about our Workwear servicesClick here to find out more about how Afonwen LAundry came aboutClick here to read about our state of the art production facilityClick here to find out about our environmental policy
     

 

 

Mae Golchdy Afonwen yn un o brif olchdai a chwmnïau llogi llieiniau annibynnol y DU gan gyflenwi dros 400 o westai o bob math, o grwpiau cenedlaethol o westai i westai teuluol annibynnol, gan gynnig amrediad clasurol o lieiniau safonol yn ogystal â'n cyfres nodedig o lieiniau cotwm Eifftaidd i'r gwestai hynny sy'n chwilio am y llieiniau o'r safon uchaf sydd ar gael gan olchdy masnachol.

Mae Golchdy Afonwen yn cyflogi dros 160 o bobl a gallwn ddelio â dros 1.2 miliwn o eitemau lliain yr wythnos, sy'n golygu ein bod yn un o'r golchdai annibynnol mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, yn gweithredu o dri chanolfan ym Mhwllheli, Caerdydd a thrwy ein chwaer gwmni, Whiteriver Laundry yn Leeds.

Rydym wedi buddsoddi dros £6 miliwn ers 1999, yn ein prif gyfleuster cynhyrchu yng Ngogledd Cymru ac yng ngwanwyn 2008 wedi dadorchuddio ein cynlluniau newydd cyffrous am raglen buddsoddiad o £5m ychwanegol i agor y golchdy masnachol yn Ne Cymru, yn cynyddu ein gallu cynhyrchu i fod yn medru delio â dros 1.2 miliwn o eitemau lliain yr wythnos, swmp anferth o lieiniau budur yng ngolwg unrhyw un!

Fel cwmni yn cael ei redeg gan deulu, rydym yn ymfalchïo yn safon uchel a dibynadwy ein gwasanaeth, sydd wedi ei ddylunio i ateb gofynion ein cwsmeriaid Rydym yn rhoi pwyslais ar gyfathrebu cyson, gofal am ein cwsmeriaid ac adborth. Ein tîm o gynrychiolwyr gwasanaeth yw un o'r timau mwyaf profiadol yn y diwydiant ac mae gan ei aelodau wybodaeth drylwyr ac eang, a pharodrwydd i weithio â chwsmeriaid i sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau.

Mae llawer o'n staff wedi bod yn gweithio gyda ni ers dros ugain mlynedd a chyda'r teyrngarwch hwnnw daw toreth o brofiad ac arbenigedd sydd wedi galluogi'r busnes i dyfu a pharhau i dyfu o ganlyniad i eiriau da ein cwsmeriaid. Yn wir, mae mwy o fusnes yn cael ei gynhyrchu trwy argymhellion personol ein cwsmeriaid na thrwy unrhyw ymdrechion hyrwyddo o'n rhan ni. Mae argymhellion personol gan gwsmeriaid wedi ein cynorthwyo i dyfu i fod yn un o'r cwmnïau annibynnol llogi llieiniau'r DU.

Mae gan y gwesty mwyaf a gyflenwir gennym dros 300 o ystafelloedd gwely a gan ein bod yn cyflenwi dros 400 o westai mae miloedd lawer o bobl yn cysgu bob nos ar lieiniau glan, cras, wedi eu glanhau'n safonol, sydd wedi eu cyflenwi gan y tîm yn Afonwen.